Main content

Beth Winter

Beti George yn holi y gwleidydd a'r ymgyrchydd Beth Winter. Beti George interviews Beth Winter politician and activist.

Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George.

Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu.

Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful ac o ddau aelod seneddol, hi gollodd y dydd yn etholiad 2024.

Fe aeth Beth i’r brifysgol ym Mryste i astudio polisi cymdeithasol, ac fe wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno yn fawr iawn. Tra yn y brifysgol roedd hi’n gwneud llawer o waith gwirfoddol gyda phobl ddigartref ym Mryste, yn helpu mewn ‘night shelters’ ac ati.

Bu'n gweithio yn Southampton am gwpwl o flynyddoedd, cyn dychwelyd i'r cymoedd. Mae hi bellach yn byw ym Mhenderyn ger Aberdâr ac yn weithgar gyda gwaith ym maes ynni cymunedol a Cymunedoli ac yn Fam i 3 o blant.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 18 Medi 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Stuart Burrows

    Calon Lân

    • 20 Ucha' Emynau Cymru.
    • Sain.
  • Faithless

    We Come 1

    • Cheeky.
  • Super Furry Animals

    Fire In My Heart

    • Fire In My Heart.
    • BMG Rights Management (UK) Ltd.
    • 1.
  • Dafydd Iwan, Ar Log & Y Wal Goch

    Yma o Hyd

Darllediadau

  • Sul 14 Medi 2025 18:00
  • Iau 18 Medi 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad