Main content

Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan

Dyl, Ows a Mal sy'n asesu perfformiad Cymru wrth ennill o 1-0 oddi cartref yn Kazakhstan.The reaction to Wales v Kazakhstan.

Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na le i boeni am y perfformiad, ta'r canlyniad ydi'r unig beth sy'n cyfri? Roedd 'na dipyn o anghytuno ynglŷn â hynny rhwng y criw!

Ond un peth sy'n sicr, roedd pawb wedi rhyfeddu gan berfformiad di-fai Dylan Lawlor yng nghanol yr amddiffyn wrth iddo ennill ei gap cyntaf. Seren newydd y dyfodol

17 days left to listen

27 minutes

Last on

Sat 6 Sep 2025 17:00

Broadcast

  • Sat 6 Sep 2025 17:00

Podcast