12/10/2025
Cyfres newydd, y tro hwn yn dangos gwaith gwyddonwyr Cymru wrth geisio creu ynni glân. A series following the work of Welsh scientists strving to generate clean energy.
Cyfres newydd o Yfory Newydd, y tro hwn yn dangos gwaith cyffrous gwyddonwyr Cymru yn y gofod ac ar y ddaear wrth geisio creu ynni glân, a sut mae mynd â syniadau newydd gwyddonwyr ifanc a'u troi yn bethau defnyddiol i'r dyfodol.
Bydd Yfory Newydd yn dechrau ar daith i blaned Mercher - wrth i ni ymweld â Chanolfan Ewropeaidd y Gofod ger Amsterdam. Gyda dau wyddonydd yn gweithio yno heddiw - ac un a fu'n arloesi yn y 70au - fe glywn am beryglon y gofod - o dywydd yr haul, i'r nifer cynyddol o loerennau sy'n llanw'r cylchdro. Bydd y rhaglen yn sôn am drawsnewid ynni yn ynni glân, gan fynd o Ynys Môn i Benfro! Ac wrth ymweld â chynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda phobol ifanc yn cyflwyno eu hymchwil chwyldroadol fe fyddwn yn ymweld ag un o ganolfannau ymchwil enwoca'r byd - Labordy Cavendish yng Nghaergrawnt i siarad ag un o'r cyn fyfyrwyr sydd nawr yn trawsnewid syniadau newydd fel eu bod yn addas ar gyfer y byd go-iawn.
Yn y saithdegau fe weithiodd y diweddar Dr Dyfrig Jones ar loeren cyntaf canolfan Ewropeaidd y Gofod - ESA ger Amsterdam. Fe oedd un o'r cyntaf i astudio y magnetosffer - a thywydd yr haul, sydd yn effeithio ar ein planed. Fe fyddwn yn siarad gyda Mrs Elenid Jones am y blynyddoedd y treuliodd Dyfrig, hi a'r plant yn ESA, ac yn clywed ei lais ef ei hun yn disgrifio ei waith mewn cyfweliad a wnaeth nôl yn y saithdegau. Yn ESA heddiw mae yna 2 wyddonydd yn gweithio ar y prosiectau diweddaraf - Yr Athro Geraint Jones, yn wreiddiol o Ynys Môn a Dr Gareth Lawrence o Aberystwyth. Wrth ymweld ag ESA yn Amsterdam wrth i'r sefydliad ddathlu hanner canrif - fe glywn am waith y ddau.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 12 Hyd 2025 16:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru