Main content

Adolygu cynhyrchiad Romeo a Juliet, Gwobr Artes Mundi, a hanes ffilm awdl fuddugol Eisteddfod Wrecsam eleni

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Ar y rhaglen heddiw mae adolygiad y darlithydd theatr a drama, o Brifysgol Aberystwyth, Dr Roger Owen o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Cymru mewn cydweithrediad â 'Shakespeare's Globe', sef Romeo a Juliet. Mae'r sylwebydd celf Elinor Gwynn wedi ymweld ag arddangosfeydd difyr yn Llundain yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn y 'Wellcome Collection'. Mae trafodaeth hefyd ar wobr Artes Mundi 11. Ac mae Gwion Hallam a Simon Watts yn galw heibio'r stiwdio i sgwrsio am gynhyrchu perfformiad cyflawn o awdl fuddugol 'Dinas' gan y Prifardd Tudur Hallam yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, sydd i'w gweld ar amrywiol blatfformau digidol S4C yr wythnos nesaf.

25 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediadau

  • Dydd Sul Diwethaf 13:00
  • Dydd Llun 18:00