Main content

Catrin Haf Jones yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Ar y diwrnod yma 120 mlynedd yn ôl cafodd Caerdydd ei gwneud yn ddinas, ond bu'n rhaid aros nes 1955 cyn iddi ennill y statws fel Prif Ddinas Cymru. Yr hanesydd Dr Elin Jones sy'n trafod y cyd-destun hanesyddol, a Huw Thomas, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, sy'n son am sut mae ein prif ddinas yn debygol o ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf;

Mabli Siriol Jones sy'n adolygu cyfrol newydd o'r enw "Feminist History for every day of the year" gan Kate Mosse;

A'r myfyriwr meddygaeth, Celyn Jones-Hughes, sy'n trafod pam bod rhai merched yn ceisio newid siap eu cyrff oherwydd pwysau cymdeithasol.

26 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Dydd Mawrth 13:00