09/11/2025
Hanes Kitchener Davies, y bardd, dramodydd a’r ymgyrchydd, a aeth o Dregaron i’r Rhondda. The story of Kitchener Davies, the poet, dramatist and campaigner from Tregaron.
Kitchener Davies o Dregaron (1902-52) oedd un o feirdd a dramodwyr mwyaf arloesol yr ugeinfed ganrif... ond i raddau, mae wedi mynd yn angof bellach. Mae'r cyflwynwyr, Ifor ap Glyn ac Ian Rowlands yn ceisio cymell ei hanes at genhedlaeth newydd.
Roedd Kitchener Davies yn fwy na bardd a dramodydd. Ar ôl iddo ymgartrefu yn y Rhondda yn y 1920au daeth hefyd yn ymgyrchydd diflino dros y Blaid Genedlaethol newydd, ac yn ddiweddarach daeth yn arloeswr addysg Gymraeg. Cawn glywed ei hanes yn ei eiriau ei hun a hefyd yn atgofion ei ferch, Megan Tudur. Ac edrychwn yn fanylach ar dri o’i weithiau mawr, sef Cwm Glo; Meini Gwagedd; a Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu, y gerdd radio a gwblhawyd ganddo ar ei wely angau.
Llun gyda chaniatâd y teulu
Ar y Radio
Darllediad
- Dydd Sul 19:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru