
Tue, 3 May 2011
Mae'r llythyr cyfreithiol mae Eileen wedi ei dderbyn o du Sioned yn destun pryder iddi. The letter that she has received from Sioned's solicitor causes Eileen some concern.
Mae’r llythyr cyfreithiol mae Eileen wedi ei dderbyn o du Sioned yn destun pryder iddi. Creda Denzil mai’r ffordd gorau i gadw’r ddysgl yn wastad yw i Eileen ymddiheuro - os ddangosith Eileen fod hi’n edifar, efallai gwneith Sioned yr un peth. Mae Sheryl yn ymdrechu i dreulio mwy o amser gyda Gethin ar ôl eu penwythnos rhamantus yng Nghaerdydd. Ond mae agwedd Gethin yn fwy ffwrdd-â-hi. The letter that she has received from Sioned's solicitor causes Eileen her some concern. Denzil thinks that the best way to keep the peace would be for Eileen to apologise – if she shows some remorse, perhaps Sioned will do the same. Sheryl makes an effort to spend more time with Gethin after their romantic break in Cardiff. However, Gethin seems more indifferent.