Main content

Afiechydon yn y Dŵr

Adroddiad am y cymorth rhyngwladol a roddwyd i Sudan ar ôl y newyn ym 1994, gan ddangos ymdrechion i ddarparu dŵr glân yn nhref Watt, yn ne'r wlad. Dangosir ffynnon newydd yn y dref a chymharir hyn â'r sefyllfa oedd yno o'r blaen, lle roedd y clefyd "mwydyn guineau" yn rhemp yn yr ardal oherwydd bod y trigolion yn yfed dŵr budr. Mae'n cynnwys ffilm o farchnad Watt oedd yn defnyddio ffeirio i fasnachu, gan nad oedd arian cyfred yno. O'r rhaglen 'Taro Naw: Sudan' a ddarlledwyd gyntaf ar 22 Awst 1994.

Release date:

Duration:

2 minutes

This clip is from