
Byw gyda Pheryglon: Darganfod adnoddau mewn mannau peryglus
Mae 42 o losgfynyddoedd ar Ynys Java yn Indonesia. Ar ochr ddwyreiniol yr ynys mae Llosgfynydd Ijen, un o’r mannau mwyaf gwenwynig ar y Ddaear. Yng nghanol y crater mae llyn sy’n cynnwys dwy filiwn a hanner o dunelli o asid.
Er gwaetha’r amgylchedd, mae pobl yn mentro’u bywydau er mwyn cloddio’r mwyn sylffwr sy’n hanfodol ar gyfer cynhyrchu rwber, cemegion a ffrwydron. Mwyngloddwyr sylffwr ydy Hartomo a Sulaiman. Mae’r ddau yn gweithio y tu mewn i grater llosgfynydd byw. Maen nhw’n fodlon mentro fel hyn er mwyn ennill llawer mwy o arian na phe bydden nhw’n gwneud gwaith lleol arall.
O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 10 Chwefror 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.
Duration:
This clip is from
More clips from ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00