Main content

Dyfroedd Cynaliadwy: Pysgota Cynaliadwy

Mae cymuned sy’n byw ar Ynys Lembata, Indonesia, yn dibynnu’r llwyr ar y môr i ddarparu eu bwyd. Ym mhentref Lamalera maen nhw’n pysgota mewn dull syml, traddodiadol, sydd heb newid am flynyddoedd. Mae hi’n dymor hela morfilod ac mae’r pentrefwyr yn benderfynol o ddal morfilod gwyn sy’n mudo.

Trwy ymdrech fawr mae eu taith bysgota’n llwyddiant ac ar ddiwedd brwydr hir a blinedig mae morfil gwyn wedi’i ddal. Dim ond tua chwe morfil gwyn y flwyddyn mae trigolion Lamalera yn ei ddal. Dyma beth yw pysgota cynaliadwy. Mae dal morfil yn gweddnewid bywyd y pentrefwyr, gan fod ei gig, ei esgyrn, ei groen a’i fraster yn gweithredu fel arian ar yr ynys bellennig hon.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 13 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

5 minutes

This clip is from