Main content

Dinasoedd Cynaliadwy: Tlodi

Yn aml, bydd sbwriel yn cael ei gludo i gyrion ein dinasoedd. Tomen sbwriel yw Kibarani, ar ffiniau Mombasa yn Kenya. Mae sawl mil o bobl yn byw yma mewn tlodi difrifol, gan geisio ennill rhyw fath o fywoliaeth trwy chwilota yn y mynyddoedd gwastraff am ddarnau o blastig neu fetel i’w gwerthu ar gyfer eu hailgylchu.

Does ganddyn nhw ddim dŵr glân, cyfleusterau iechyd, ysgolion na thai parhaol. Mudwyr o ardaloedd gwledig cyfagos yw’r mwyafrif o drigolion Kibarani, wedi methu cael gwaith yn y ddinas. Cawn gwrdd ag Assha a’i theulu, sy’n byw yn Kibarani. Maen nhw’n helwyr-gasglwyr modern sydd wedi ymaddasu i oroesi yn yr amgylchedd unigryw yma a grëwyd gan ddyn.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 03 Mawrth 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

6 minutes

This clip is from