Main content

Garffild Lloyd Lewis - Ync

Stori deimladwy am sut ddaeth Garffild Lloyd Lewis i wybod am ddigwyddiad allweddol ym mywyd ei ewythr annwyl, 'Ync'. Stori na ddaeth Garffild ddod i wybod amdani tan iddo ddarganfod hen lyfr copi.

"Wnes i ddim dod i wybod am y stori honno, tan ar ôl iddo fo farw."

Dyma stori deimladwy am sut ddaeth Garffild Lloyd Lewis i wybod am ddigwyddiad allweddol ym mywyd ei ewythr annwyl, 'Ync'. Stori na ddaeth Garffild ddod i wybod amdani tan iddo ddarganfod hen lyfr copi.

Holi Garffild Lloyd Lewis:

Beth yw pwnc eich stori ddigidol?

Mae'n seiliedig ar ddyddiadur hen ewythr i mi o Drawsfynydd, gafodd ei glwyfo'n ddifrifol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd fel taid i mi, yn fy nysgu i bysgota a chwarae peldroed - ond doedd ei wyneb ddim yn edrych yn naturiol, er nad oedd hynny erioed wedi fy mhoeni pan yn blentyn.

Wedi i Yncl Ellis farw, cefais ddyddiadur/hunangofiant o'i gyfnod yn y fyddin a hanes ei glwyfo. Roedd yn stori ryfeddol.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Roedd y profiad yn werthfawr iawn i mi. Rwyf wedi arfer 'sgwennu 'newyddion', ond roedd yn braf cael ymestyn ac agor fy meddwl i syniadau ffres a dysgu sgiliau newydd.

Roedd hefyd yn brofiad emosiynol gwneud profiadau Yncl Ellis yn rhai 'cyhoeddus' iawn. Roedd hefyd yn gychwyn ar rywbeth.

Mae'n fwriad gennyf rwan i geisio cael cyhoeddi'r dyddiadur a'r lluniau, neu eu haddasu i fod yn ddrama neu ffilm. Wedi cael 'Cipolwg', rwyf rwan yn gobeithio cael cyfle i gyfleu'r 'darlun cyfan'.

Beth yw eich hanes chi Garffild?

Cefais fy ngeni a fy magu ym mhentref Trawsfynydd. Ar ôl cwblhau arholiadau Lefel A yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, mi es i weithio cyn mynychu cwrs gradd mewn Cyfathrebu yn yr hen Goleg Normal ym Mangor ar ddechrau'r wythdegau.

Cyn cwblhau fy ngradd, cefais gynnig gwaith fel newyddiadurwr gyda ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yng Nghaerdydd ac rwyf wedi gweithio i Adran Newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½ ers hynny.

Release date:

Duration:

3 minutes