
Eleri Retallick - Clirio'r Cwpwrte
Mae atgofion o'r ceffyl pren mor fyw heddiw ag yr oedd pan fu Eleri Retallick yn ei farchogaeth yn blentyn.
"Fe ddes o hyd i'r hen geffyl pren siglo - heb mwng na chwt erbyn hyn..."
Mae atgofion o'r ceffyl pren mor fyw heddiw ag yr oedd pan fu Eleri yn ei farchogaeth.
Eleri Retallick
"Boring Women have Clean Houses." Rwy'n casau clanhau. Dim mod i'n byw mewn lle brwnt! Ond rwy'n casau'r amser rwy'n treulio ar lanhau, lle gallwn i fod yn gwneud rhywbeth arall - coginio, darllen... garddio.
Ar hyn o bryd hefyd rwy'n helpu Dad. Chi'n gweld fu farw Mam a nawr mae rhaid troi'r cwpwrte allan. Na jobyn!
Fe ddes i o hyd i'r hen geffyl pren siglo - heb mwng na chwt erbyn hyn. Rwy'n cofio am ddyddiau fy mhlentyndod yn siglo ar yr hen geffyl o flaen y teledu yn gwylio'r rhaglen 'Rawhide' . Pob tro clywaf gân y rhaglen ar y Radio, mae'n dod â melys atgofion fy mhlentyndod yn ôl i mi.
Roeddwn yn marchogaeth yr hen geffyl siglo â shwt egni, fe fuaswn yn cwmpo nôl i mreichiau'n nhad, oedd yn sefyll tu ôl!
"Gwna'n siwr ei fod hi ddim yn cael niwed," meddai Mam. Dyna pam cafodd y "rubber stoppers" eu rhoi ar draed ôl y ceffyl, i wneud yn siwr fuaswn i ddim yn moelid nôl.
Agor cwpwrdd arall. Gweld ei hoff ffrog "bob dydd" fel byddai hi'n ei alw. Mae'r ffrog yn gysylltedig â Mam yn y gegin. Mam wastad â phryd o fwyd ar y bwrdd, wastad â gair o gyngor call.
Ffrog arall yn gysylltedig â'm mhriodas a Mam mor falch yn ei gwisg orau.
Agor drâr arall a gweld coler Bonnie - fy nghocker spaniel - yr hen ffrind ufudd. Fu farw Bonnie yr un flwyddyn â Mam. Cymeriad o ast!
Mae'r ddwy gyda'i gilydd nawr. Y llais a'r cyfarthad wedi distewi pellach.
Dyw gwagio'r cwpwrte ddim yn rhwydd - ond mae'n amhosib cadw popbeth. Er bydd ambell i beth yn mynd i'r Siop Elusen, mi fydd fy atgofion melys wastad yn cadw cwmni â'r hen geffyl siglo.
Holi Eleri:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n gweithio fel Rheolwraig Theatr y Glowyr yn Rhydaman. Rwy'n briod ac yn byw ym Mhencader. Rwy'n hoff o fy ngwaith bob dydd yn y cyfryngau ond mae fy nheulu yn bwysig hefyd.
Am beth mae eich stori yn sôn?
Mae'r stori am y cyfnod yn fy mywyd - sef y flwyddyn 2000 - pan gollais fy ddwy ffrind orau. Mae'r stori yn un bwysig iawn i mi.
Pa agwedd o'r gweithdy oedd yr un mwyaf gwerthfawr?
Gwych. Profiad gwefreiddiol. Tîm gret, cwmni da a straeon diddorol gan bawb i'w hadrodd. Os cewch y cyfle ewch amdani i wneud eich stori ddigidol eich hun. Profiad bythgofiadwy.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00