Main content

Bryn Terfel yn Canu Cerdd Dant

Enghraifft o gerdd dant, un o draddodiadau hynaf Cymru, ar ei orau gyda Bryn Terfel yn canu a Dylan Cernyw yn cyfeilio iddo ar y delyn. Mae’r delyn yn canu’r un alaw trwy’r amser, ond mae’r canwr yn canu pob pennill ar gyfalaw wahanol er mwyn cyfleu ystyr y geiriau. O'r rhaglen 'Bryn Terfel a Chyfeillion: Canrif o Gân' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 25 Rhagfyr 1999.

Release date:

Duration:

3 minutes