Main content

Byw heb ddŵr - defnyddio sgiliau hynafol

Teithwyr y diffeithdir ydy pobl y Tubu. Bob blwyddyn bydd menywod y Tubu yn croesi'r diffeithdir sawl tro gyda'u camelod gan ymdopi â'r tirwedd cras. Maen nhw'n teithio cannoedd o gilometrau ar draws y diffeithdir i gyrraedd trefi bach lle maen nhw'n gwerthu eu nwyddau. Er mwyn gallu goroesi am gyfnodau maith yn y diffeithdir, rhaid i fenywod y Tubu ddod o hyd i ddŵr. Mae Foni a'i merch 10 oed Shede yn chwilio am ffynnon ddŵr, sydd ddim ond yn un metr sgwâr o faint, yng nghanol y diffeithdir. Heb fap na chwmpawd, gall Foni lywio ei llwybr trwy'r diffeithdir - sgil a ddysgodd gan ei hynafiaid. Gall menywod y Tubu ddilyn copaon y twyni tywod i'w helpu i benderfynu i ba gyfeiriad i deithio.

Release date:

Duration:

8 minutes