
Teulu Meinir
Gwelwn fam Meinir yn ymweld â hi yn yr hosbis. Ceir cyfweliad gyda Gwen, modryb Meinir, a gwelwn glipiau o Meinir gyda'i mam a'i modryb. Mae modryb Meinir yn sôn am y sioc gafodd y teulu o glywed am ganser Meinir. Doedden nhw ddim yn credu'r peth gan fod Meinir yn berson mor gryf. Dweda ei modryb fod Meinir wedi bod yn sâl ofnadwy, ond ei bod yn brwydro'n galed bob cam o'r daith. Teimla ei modryb ym mêr ei hesgyrn bod Meinir yn mynd i oresgyn y salwch, ac mae hi wedi'i rhyfeddu ei bod hi wedi dod drwy'r hyn y daeth hi drwyddo’n barod ac yn dal i frwydro’n galed. Mae Meinir yn dweud ei bod yn well nag oedd hi. Roedd hi’n ei chael yn anodd ysgrifennu tua mis yn ôl, ond mae hi’n well erbyn hyn. O 'O Flaen dy Lygaid' a ddarlledwyd ar 12 Mehefin 2007
Duration:
This clip is from
Featured in...
Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Health & Social Care
Clipiau dysgu Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Learning clips in Health & Social Care.
More clips from Clipiau Dysgu
-
Ynys Enlli—Dysgu
Duration: 01:00
-
Sea Empress - Llygredd—Dysgu
Duration: 01:53
-
Ray Gravell—Dysgu
Duration: 02:31
-
Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg—Dysgu
Duration: 03:53
More clips from ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00