Main content

Y Ddamwain

Ceir cyfweliad â Martin lle mae’n sôn am sut cafodd ddamwain. Pan oedd e tua 5 mlwydd oed, roedd e allan ar y beic. Mae'n cofio ei fod yn pedlo i fyny rhiw a'i fod wedi troi ar y top er mwyn mynd yn ôl am adre. Mae'n cofio ei fod yn mynd yn gyflym iawn a'i fod wedi gwasgu'r brêc. Y peth nesaf mae e'n ei gofio yw hedfan oddi ar y beic. Mae e'n cofio hyn yn iawn, ac yn cofio bod yn yr ysbyty. Wedyn, tua hanner blwyddyn ar ôl hynny, datblygodd ei atal dweud. Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 17 Mawrth 2007

Release date:

Duration:

1 minute

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu