Main content

Cywydd: Diogi.

Y trwbwl ‘da gwneud rhywbeth
Yw, bois, penderfynu beth
I’w wneud. Mae’n straen ofnadwy
Drwy’r dydd ar f’ymennydd; mwy
Blinedig a blin wedyn
A gwaeth, wir, na’r gwaith ei hun.

Dyma boen yw gwneud dim byd
Eithafol o dreth hefyd
Arnaf i, fe garwn fod
Yn beiriant, ond sai’n barod.
Y trwbwl da gwneud rhywbeth
yw, bois, penderfynu beth.

Emyr Lewis

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad

Daw'r clip hwn o