Main content
                
    Telyneg neu Soned: Cyfri.
A dyma un arall
yn troi arwydd
a thynnu bleinds.
Pwyso ar gownter oer
a hen siwgr
yn setlo dros atgofion.
Er rhoi winc a losin ecstra’n
rhodd i blant
am gadw’i byd yn ei le,
rywsut heddiw
mae’r pacedi papur
yn daclus o wag.
A nawr rhaid iddi
sychu’i byd
yn ei ffedog
a’i hongian
gyda’i chlecs.
Mari George
9.5
Cyfanswm Marciau: 72.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 07/07/2013
- 
                                                ![]()  Telyneg neu Soned: Cyfri.Hyd: 00:49 
- 
                                                ![]()  Englyn i unrhyw beldroediwr enwog.Hyd: 00:11 
- 
                                                ![]()  Englyn i unrhyw beldroediwr enwog.Hyd: 00:11 
 
         
             
             
             
             
             
            