Main content
                
    Telyneg neu Soned: Cyfri.
T.H.P.W
Ar draws y goror sydd rhwng ffydd a ffaith,
Nad ydyw鈥檔 rhan o鈥檙 gogledd nac o鈥檙 de,
Mi welodd Tomos Beiblaidd ar ei daith
Y darnau chwilfriw鈥檔 gorwedd hyd y lle.
Byseddodd hyd a lled y defnydd crai,
Y geiriau bach y bu鈥檔 eu troi a鈥檜 trin
A鈥檜 plethu 鈥榥ghyd, yn union fel petai
Yn fwriad ganddo i symud peth o鈥檙 ffin.
O roi y llun cymesur ger ein bron
Am funud fer mi ail-orseddwyd trefn,
Ond dim ond llwynog oedd yr ennyd hon
Cans aeth yn 峄弆 i鈥檞 chwalu鈥檔 f岷璶 drachefn,
Yn 峄弆 i鈥檙 broydd rhwng y gwir a鈥檙 gau
Lle nad yw un ac un bob tro鈥檔 gwneud dau.
Idris Reynolds
9
Cyfanswm Marciau: 72
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 07/07/2013
- 
                                                ![]()  Telyneg neu Soned: Cyfri.Hyd: 00:27 
- 
                                                ![]()  Englyn i unrhyw beldroediwr enwog.Hyd: 00:11 
- 
                                                ![]()  Englyn i unrhyw beldroediwr enwog.Hyd: 00:11 
 
         
             
             
             
             
             
            