Main content

HIr a Thoddaid yn cynnwys y llinell 'Rhy hawdd o hyd yw chwalu breuddwydion'

Nid canŵ ar foryd y caneuon
yw bywyd o hyd, fel ar iPod hon,
nid alaw’r gwyliau, nid odlau’r galon;
ond mae hithau mor braf ar ei hafon
ac o fin y graig, fy nhiwn gron sy’n fud –
rhy hawdd o hyd yw chwalu breuddwydion.

Myrddin ap Dafydd
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

20 eiliad