Main content
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell 'Rhy hawdd o hyd yw chwalu breuddwydion'
Rhy hawdd o hyd yw chwalu breuddwydion
a beio rhithiau y Gael a’r Brython,
ond ’leni, beryg, ni fydd yn ddigon
gwenu na gwgu eich 'strywiau gweigion:
o wlad y Llew a’i glewion – un bore
daw grym eu Hie i dagu’r amheuon.
Sion Aled
9