Main content
Pennill Ymson mewn siop recordiau
Tyrd i ffwrdd efo fi
fel gwyryf (sdim angen siaced).
Mae Llundain yn galw,
mae’r frenhines wedi marw
a’r pibydd wrth byrth y wawr.
Mae gwaed ar y cledrau,
y llinellau cyfochrog,
a’r ystlym o uffern,
o ochr dywyll y lloer,
ac awch am ddinistrio
â sibrydion yn yr oriau mân.
Ac wele ddieithryn yn ngwledd y cardotwyr
a’r corynnod o Fawrth wrth y dorau.
Gad o fod,
gad iddo waedu,
tyd i ffwrdd efo fi fel gwyryf -
mae pont dros y dyfroedd aflonydd
i’r hen ffordd Gymreig o fyw.
Sian Northey
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Dros yr Aber v Y Cŵps
Hyd: 00:52
-
Talwrn Tafwyl - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:42
-
Caernarfon v Y Cŵps - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:24
-
Dros yr Aber v Y Tir Mawr - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:18