Can ysgafn: Obsesiwn
Can ysgafn: Obsesiwn
Roedd lawnt Ronald Wyn fel bwrdd snwcar, bob gwelltyn yn boenus o hardd
Ond gwelodd, un bore dydd Gwenar, ddau dwmpath o bridd yn yr ardd.
Yn brydlon gosododd y trapiau.Y Twrch wthiodd bric i bob un.
Roedd teirgwaith yn fwy o dwmpathau pan wawriodd hi fore dydd Llun.
Am fisoedd bu Ron drwy’r nosweithiau yn stelcio’n yr ardd efo rhaw
Yn stwffio Drain Duon i’r tyllau a gwydrau ‘di’w malu i’r baw.
Yn raddol fe wariodd o ffortiwn wrth drio cael gwared o’r diawl
A rhaid oedd anghofio’r ecstensiwn a gwyliau mis Awst ym Mhorthcawl
Dirywiodd yr ardd yn sylweddol.Edrychai fel Dwyrain Berlin
Efo llu o dwmpathau bach heriol yn codi fan draw a fan hyn
R’ol pori dros ddegau o dapiau o’r camera C.C.T.V.
Aeth ati o ddifri i’w ddifa a chanddo fo arfau di-ri.
Fe wnaethant eu gwaith yn rhagorol, (y petrol, y nwy a’r harpŵn)
A’r cyrff a bentyrai’n wythnosol yn gathod, cwningod a chŵn.
Er gwaetha’r holl drais a’r llofruddio y twrch oedd yn glud dan y gro
A Ron a ddiflanodd dan grio i’r Cwt Pen Draw’r Ardd o dan glo
Daeth allan gan ollwng glyfeirion.Mewn sach ar ei gefn yr oedd bom
Adawodd y cwt yn grybibion a’r ardd fel golygfa o’r Somme
Mae Ron erbyn hyn yn y ddaear ond ni chaiff o orffwys mewn hedd
O’r herwydd fod twrch bach ymffrostgar ‘di symud drws nesa’ i’w fedd.
Jos
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Dros yr Aber v Y Cŵps
Hyd: 00:52
-
Talwrn Tafwyl - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:42
-
Caernarfon v Y Cŵps - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:24
-
Dros yr Aber v Y Tir Mawr - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:18