Main content
Can ysgafn: Obsesiwn
A’u clustiau ’di’u merwino
taranodd rhai yn glir
y bydd gwlad o gamdreigladau
yn wlad heb iaith cyn hir.
‘Ystyriwch y camdreiglwyr,’
medd eraill, blin fel mellt;
‘O’u dychryn â chywirdeb,
fe aiff yr iaith i’r gwellt.’
Sibrydaf yn y storom
o ffraeo am yr iaith:
wnaiff safon ddim ei lladd hi,
nac amherffeithrwydd chwaith.
Guto
9