Soned neu Delyneg: Sgidiau
Mae carnedd goch uwchben y ffordd yn Stiniog
newydd iti ddod drwy’r bwlch a throi
at lechi’r dre: ôl bŵts y milwyr beichiog
ddaeth yn ôl o ryfel gynt a rhoi
i faw y ffosydd ffling a lluch i hoelion
gorymdeithio – o’r rheng, yn ddynion rhydd.
Chwedl ffol, yn ôl hanesydd lleol: sbarion
lledr o ffatri sgidiau plant rhyw ddydd.
Ond mae hi’n stori fyw, croen tir yn yn gofeb
lafar gwlad i graith tu hwnt i hud
a glesni Mai; a thomen o gasineb
milwyr at y drefn o drampio’r byd,
a’u nerth o deimlo’u bro o dan eu gwadnau,
gwich giât, a chroesi’r trothwy’n nhraed eu sanau.
Myrddin ap Dafydd
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Dros yr Aber v Y Cŵps
Hyd: 00:52
-
Talwrn Tafwyl - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:42
-
Caernarfon v Y Cŵps - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:24
-
Dros yr Aber v Y Tir Mawr - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:18