Main content

Soned neu Delyneg: Sgidiau

Bellach rwy’n un
o’r chwiorydd hyll
yn torri blaen fy mawd
i ffitio’r esgid,
a’r lledr gwyn yn goch gan waed.
Y lledr coch sy’n dawnsio
hyd y sarn o friciau melyn
yng nghwmni’r llew,
ac yntau â gorchest ei law gyffes
yn pwytho twyll
i ’sgidiau mam ddialgar.
Prin dw i'n cofio’r dyddiau troednoeth
cyn y straeon
a’m bodiau yn fy nghrud
heb gerdded cam.

Sian Northey
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

28 eiliad