Main content

Cywydd: Ffoi

Hunllef fydd mis Mehefin
Â’u sgôr o hyd ar ryw sgrin,
A’u croes goch a’u crysau gwyn
A’u taclo ar bob teclyn,
A’u penawdau poenydiol
Yn creu gwyrth o gic i’r gôl,
Yn creu saint, yn creu crwsâd,
Yn creu sylw croeshoeliad.

Dyn na all eilunaddoli
Dau ddeg dau o ddynion ’dwi;
Adyn di-bêl-droed ydwyf
Heno ffoi rhag FIFA wyf!

Ifan Prys
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad