Main content

Cywydd: Ffoi

Nid yw dianc ond awydd
i ffoi drwy dwneli ffydd,
i le gwell o’r gornel gaeth,
digon ar erledigaeth.

O garchar angen arian
cryfhau i ddianc o’r fan;
cario pridd, nid cario pres
hynny fel stalag hanes.

Rhyw ddydd o haf daw’r rhyddhad
ym mhriddoedd fy ymroddiad,
rhyddid yw fy mreuddwyd i
hwyrach, Tom, Dic neu Hari.

Arwel Jones
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad