Main content

Pennill Ymson mewn siop baent

'Beth am drowsus creosot?'
medd' un; awgrymai'r llall
'grys farnais' a 'chap gwyngalch' -
doedd y ddau 'ma ddim yn gall!
Roedd i'w gweld yn siop reit barchus,
ond och! Paham parhaent
i sôn o hyd am 'dronsia tyrps' ?!
DWI ISIO CÔT O BAENT!

Ifor ap Glyn
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad