Can Ysgafn: Amser Maith yn ol
Can Ysgafn: Amser Maith yn ol
Mi adeiladais i time-machine, neu yn y Gymraeg mash卯n teim,
er mwyn teithio'n 么l mewn amser i'r adeg pan oedd TH yn ei breim.
Na, na, nid y bardd Parry-Williams, er cymaint ei athrylith o,
Ond athrylith mwy fyth o beldroediwr, TH Resma o Gwm y Glo.
Roedd s么n ei fod wedi cael treial un tro i Lanesra pan oedd o yn iau,
ond ni yn y Cwm ga鈥檛h y fraint o'i wylio yn anterth ei ddawn ar y cae.
Oes aur y b锚l gron, gan mlynedd 鈥檔 么l bron, mae pawb yn cofio'r 20au,
pan oedd golis yn dew, a'r peli yn drwm, a neb wedi clywed am dactegau.
TH oedd y meistr yn arwain y lein, ein hateb ni i Dixie Dean,
Ond yn wahanol i flaenwr Everton, gwn芒i Resma bob dim wysg ei din.
Fe sodlai y b锚l i'r rhwyd yn ddi-ball, a'i drwyn am y g么l yn chwedlonol,
A phob tro ar 么l sgorio, c芒i fygyn bach slei, wrth 么l-gamu yn 么l tua'r canol.
Yn nhymor 鈥27 roedd di sgorio gan gwaith namyn un erbyn dechrau mis Ebrill,
efo wyth g锚m ar 么l doedd mond angen un g么l, a phob g锚m oedd yno i'w hennill.
A鈥檜 hennill a wnaed, ond er cael p锚l i draed, roedd rhywbeth go ryfedd yn bod -
Er sodli a bwrw sawl postyn a bar, methodd TH 芒 tharo y nod.
Drwy鈥檙 g锚m olaf un roedd y dorf fel un dyn, tu cefn i鈥檙 blaenwr rhwystredig,
Ond 芒 munud ar 么l sodlodd TH i鈥檙 g么l 鈥 o ugain llath! 鈥淥o-o-o! Bendigedig!鈥
Ac wrth i'r b锚l setlo yng nghornel y rhwyd, gan roi iddo'i ganfed g么l,
cyhoeddodd TH: "I AM RESMA!" 鈥 鈥檛hgwrs, roedd hyn AMSER MAITH yn 么l.
(Lanesra = Arsenal)
Geraint Lovgreen
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Dros yr Aber v Y C诺ps
Hyd: 00:52
-
Talwrn Tafwyl - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:42
-
Caernarfon v Y C诺ps - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:24
-
Dros yr Aber v Y Tir Mawr - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:18