Main content

Telyneg: Grisiau

Y dringo yw’r peth,
yr araf sengi, cyn petrus esgyn
o ris i ris, yn ditw briwsion,
cyn sboncio eto,
yn groen gwyddau o densiwn...
Dan flaenfys, drydanflew...

Y dringo oedd y peth,
wrth ddysgu bysedd dall i weld,
mapio cyfathrac h hÅ·n na iaith...
cyn i syrffed ben grisiau
droi angerdd yn hengerdd,
yn amdo dyhead...

A'r dringo fydd y peth...
Nid cerdd mo hon, ond breichiau ffarwél
yn llipa dyner am dy wddw,
cyn ymwregysu, i lusgo esgyn
i ben y clogwyn olaf
mewn golau brain...

Ifor ap Glyn
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad