Main content
Telyneg: Grisiau
Ar bob gris o gropian byw,
yn niniweidrwydd rhyfeddod
araf yw’r symud a’r ymdopi.
Wrth esgyn grisiau plentyndod
ymsythu a disgyn cerdded
yng nghysgod gofal dwylaw mam.
Ond ar ris llencyndod
ffraeo a checru
a strancio hyd loriau drw caled.
Cyn ehedeg ar risiau bywyd
i’r uchelfannau rhydd;
yna gweld culni’r grisiau
yn codi oddi fry,
mor sydyn y cyrhaeddais y fan hyn;
ac yno yng nghornel llygaid fy meddwl
gwelaf oleuni’r grisiau dibendraw.
Lois Jones
8.5