
Eglwys Llanwenog, Ceredigion: Cerfluniau pren gan ffoadur rhyfel
Yn Eglwys Llanwenog ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion mae gwaith pren cywrain wedi ei gerflunio gan Joseph Rubens, dyn oedd wedi ffoi o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd Rubens loches gan berchennog stâd Highmead ger Llanybydder, Major Herbert Davies-Evans yn ystod y Rhyfel Mawr.
Tra yno, gweithiodd ar y cyd gyda Herbert Davies-Evans i gerfio croglen ('rood screen'), pulpud, pen corau ('pew ends') ac areithfa yn yr Eglwys.
Yn ogystal, fe gerfiodd le tân godidog yn yr ysgol i goffáu’r bechgyn a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel.
Mae Mrs Mary Thomas, aelod ac organyddes yn yr eglwys yn disgrifio’r gwaith pren hardd sydd yno, ac mae’r Parchedig Suzy Bale, Ficer Llanwenog, yn disgrifio’r groglen.
Lleoliad: Eglwys ac Ysgol Llanwenog, Llanybydder, Ceredigion, SA40 9UU