Guildford Crescent, Caerdydd: Cofeb i'r Seiri Rhyddion a laddwyd
Dafydd Henri Edwards ac Elfan Jones yn olrhain hanes y Seiri Rhyddion yn ystod y Rhyfel Mawr.
Lladdwyd nifer enfawr o aelodau o’r Frawdoliaeth yn y Rhyfel Mawr, ac yn sgil hynny, sefydlwyd cyfrinfeydd newydd yn gysylltiedig â’r lluoedd arfog yn ystod y 1920au a’r 1930au.
Mae cofeb nodedig i’r rhai hynny a gollodd eu bywydau o gyfrinfeydd yng Nghaerdydd i’w gael yn Nheml y Seiri Rhyddion yn Guildford Crescent.
Y Deml Fawr ar Great Queen’s Street yn Covent Garden, Llundain yw’r gofeb mwyaf i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y byd. Bu nifer o Gymry amlwg y cyfnod yn aelodau o’r Frawdoliaeth gan gynnwys Cynan ac Elfed.
Lleoliad: 8 Guildford Street, Cardiff, South Glamorgan CF10 2HL
Llun: Teml y Seiri Rhyddion yn Guildford Crescent a'r gofeb sydd ynddi i'r aelodau a laddwyd yn y Rhyfel Byd CYytaf.