Main content
Clwb Golff Clun, Abertawe: Un o filwyr dewraf y 'Swansea Pals'
Dr. Catrin Stevens a Dr. Gethin Matthews sy'n olrhain hanes Capten John Stanley Strange, un o filwyr dewraf bataliwn y “Swansea Pals”, yn y clip yma.
Bu’r Capten Strange yn ymladd ym mrwydrau Mametz, Ypres a Passchendaele ac enillodd y Groes Filwrol a medal am wasanaeth nodedig.
Daeth yn ôl i Abertawe wedi’r Rhyfel a bu’n Gadeirydd ar Glwb Golff Clun ger y Mwmbwls.
Lleoliad: Clwb Golff Clun, 118-120 Owls Lodge Lane, Mayals, Abertawe, SA3 5DP
Llun: Y clwb yn y 1920au gyda diolch i Glwb Golff Clun.