Main content
Gwyneth Glyn - Bois y Loris
Bois y loris, bois y lôn
o odre Penfro i gopa Môn.
Bois y pei a'r coffi cry'
yn hela'r sêr ar noson ddu.
Llwytho llechi, cario coed
i gyfeiliant Geraint Lloyd.
Bois y mae'r ffordd iddyn nhw'n ffrind.
Bois sydd yn gwybod i ble maen nhw'n mynd.
O Gaernarfon i Gasnewydd,
o Nebraska i Soar y Mynydd,
o Gaer i'r Gŵyr, o Gricieth i Goris,
wneith Cymru fyth laru ar fois y loris!
Gwyneth Glyn