Aneirin Karadog yn dathlu campau chwaraeon Cymru
"Penwythnos yng Nghymru Fydd" – cerdd gan ein 'Bardd y Mis' yn ymateb i ddigwyddiadau pêl hirgron a phêl gron y penwythnos.
Cerdd gan ein 'Bardd y Mis' yn ymateb i ddigwyddiadau pêl hirgron a phêl gron y penwythnos.
Penwythnos yng Nghymru Fydd
Aeth penwythnos arall heibio
a'r un yw'r gân o hyd,
o weld y sgôr daw ochneidio
gan gollwyr gorau'r byd.
Achos pan mae'n dod i golli,
does neb yn colli'n well:
Colli cefnwyr sy' 'di nafu,
neu golli bant, ymhell.
Ond mae llwyddiant yn stelcian
tu ôl i'r colledion llwm
a'r llyfrau hanes sy'n gwegian
(ac ro'n nhw eisioes yn go drwm!).
Mae bron i drigain mlynedd
ers i Pele sgorio'r gôl
a ddysgodd i ni amynedd,
neu bod gobeithio yn beth ffôl.
Ond ry'n ni ar ein ffordd i Ffrainc,
a nôl i Twickers, sef ein HQ.
A fydd Henson ar y fainc?
Ai Provence yw'r lle i fyw?
Ond mae 'na gwestiynau mwy
yn pwyso ar fy nghalon;
achos hoffwn wybod pwy,
pwy yw ein tywysogion?
Beth yw hyd a lled ein harwyr?
Ai dynion sy'n cicio pêl?
Yn gollwyr neu'n enillwyr,
ydyn ni'n Gymry, doed a ddêl?
Pan drechwn ni y Springbok
ac yna chwalu'r Maori,
pan gloiwn ni y padloc
ar gwpan Ewrop, myn dian-i,
a fydd y ddraig yn chwythu
ei thân ym mhob cornel?
A fyddwn ninnau'n Gymru
fel y gwelaf ar y gorwel?
A fydd yn y llyfrau hanes
ddim ond pennod am ddau dîm?
Neu a fydd yna lyfrau'n gyfres
sy'n nodi taw Cymru Å·m?
Aneirin Karadog
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru.
Mwy o glipiau Post Cyntaf
-
Chwarter canrif o'r Post Cyntaf
Hyd: 03:27
-
Doedd Caerdegog ddim ar werth
Hyd: 04:37
-
Ffarwel arbennig i Hari o Alder Hey
Hyd: 09:09