Main content
Mae’n ddrwg gennym, ‘dyw’r clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Monolog Sul Y Mamau - Aderyn y Ddrychin

Ail-wampiad o'r ail-gangen yw ‘Aderyn Y Ddrycin'.Mae'r fonolog wedi ei chloddio o'r Mabinogion, ac yn rhoi llais i Franwen sydd yn ddim ond ysbail rhwng dwy deyrnas yn y stori wreiddiol. Ym monolog Dyfed ryn ni yn mynd i glywed Branwen yn danllyd - mae'n gynddeiriog ei bod wedi cael ei thrin fel dim mwy na da byw. Ac ar ol iddi wneud ei dyletswydd ac esgor ar etifedd, mae hi'n plotio i ddial ei llid ar ddau dy.

Yn perfformio Aderyn y Ddrycin mae'r actores Ffion Dafis.

Hyd:

10 o funudau

Daw'r clip hwn o