Main content

Y Mannwyd - Gruffudd Owen

Y Mannwyd

Daeth Gwanwyn wedi’r Gaeaf llwm,
yr hirlwm a aeth heibio,
ond uwch fy mhen mae cwmwl llwyd,
mae’r Mannwyd wedi taro.

Rwyf yn y tÅ· mewn dressing gown
yn llawn hylifau afiach
a bocsys tisiws ym mhob man.
Rwy’n teimlo’n wan fel cadach.

Rwyf yn fy ngwely’n chwysu’n stecs,
a’r kleenex bron ar ddarfod
a minnau’n amau bob rhyw awr
fod y diwedd mawr ar ddyfod.

Mae ’mhen yn pwyso ugain stôn,
mae afon hyd fy nhrawswch,
ni welwch fyth er crwydro hyd
y byd y ffasiwn fadwch.

A minnau’n gaeth i boenau’r clwy
pendronaf pwy ga’i feio.
Pwy bynnag oedd, caiff fynd i’r diawl
y sawl a wnaeth fy heintio.

Ond gyda help fy radio fach
a jioch go iach o wisgi
fe ddof drwy’r Mannwyd gwaetha ’rioed
â Geraint Lloyd yn gwmni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...