Main content

Port Talbot

A hud y lleuad llawn
arian
oer
mor bell o’n byd
yn llusgo llanw lliw dur
o gyfandir i gyfandir,
a chroeswyntoedd y marchnadoedd mawr
yn chwerthin trwy goridorau grym
ac yn poeri ewyn i wyneb dyn,
mae cwtsh o deulu
yng nghwch bach eu cartref
yn cyfri eu ceiniogau
dros fins ar dôst,
a chadwyn hen angor trwm
yn bygwth llithro,
ddolen wrth ddolen,
trwy ddwylo garw’r gŵr
a chwipio’u byd
megis deilen i’r fagddu
sydd am fygu’u fflam dragwyddol,
a gadael dim
ond adlewyrchiad lleuad oer
yn ofn yn eu llygaid llawn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 04/04/2016