Main content

Rhaglen Dewi Llwyd o Baris 19.06.16
Cyfle i drafod peldroed a’r refferendwm gydag amryw o westeion
Paris fydd lleoliad Dewi ar gyfer ei raglen fore Sul yma. Cyfle i gael edrych ymlaen at gem dyngedfennol Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 ar y nos Lun yn ogystal â thrafod tynged Cymru a Phrydain yn Ewrop ar y Sul cyn y Refferendwm. Elin Haf Gruffydd Jones a Harri Lloyd Davies oedd yn adolygu’r papurau Sul yng Nghymru a Ceri Davies ym Mharis. Cyfle i glywed sgyrsiau difyr gyda Chymru sydd wedi ymgartrefu yn Ffrainc. Dylan Griffiths, Iwan Roberts a Catrin Heledd fydd yn dadansoddi gêm Cymru yn erbyn Lloegr ac yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Rwsia.
Podlediad
-
Dewi Llwyd ar Fore Sul
Adolygiad o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol.