Main content
                
    Disgwyl am y wawr
Mae’r wawr yn werth ei gweld y dyddiau hyn,
a’r heulwen yn teyrnasu dros y tir,
gadawodd heuldro’r haf y wlad ynghynn
gan egni’r golau sydd yn para’n hir.
Pa fath o wawr fydd ‘fory, wedi dod
a’r cyfri mawr, a’r dadlau mwy i ben?
Ai gwawr o gerydd fydd hi, am ein bod
mewn tymer wedi codi cwr y llen
ar fwgan y gorffennol, a rhyddhau
cysgodion oer y ffos, y bom a’r gwn?
Neu gwawr groesawgar heddwch yn parhau?
Waeth beth a wnawn, mae’r gaea’n dod, mi wn,
A thywyllu fesul diwrnod wnaiff hi nawr,
Ond gwn y bydd, yfory, doriad gwawr.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd Mehefin 2016 - Hywel Griffiths—Gwybodaeth- Cerddi gan Hywel Griffiths, Bardd Mis Mehefin 2016. 
Mwy o glipiau Refferendwm yr UE
- 
                                                ![]()  BoreHyd: 00:22 
 
         
             
