Main content
                
    Cywydd - ‘Dim ond’ - Rhys Iorwerth
(Ymweld â bedd Hedd Wyn am y tro cyntaf)
Dim ond ni a’r meini mud
sy’ yma. Dim yn symud:
awel haf ac arafwch
cysglyd ar weryd yn drwch;
ac o gylch y meini gwyn,
haul ac Å·d gwlad Belg wedyn.
Gwyrddni lawnt. Y gerddi’n lân,
a gyfuwch â draig fechan,
dyna weld ei enw o.
Anadl. Fan draw’n dadflino
ar y dalar mae ffarmwr
how-di-dow yn cario dŵr.
Rhys Iorwerth (Aberhafren)
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 17/07/2016
- 
                                                ![]()  Grisiau - Mari GeorgeHyd: 00:32 
- 
                                                ![]()  Grisiau - Myrddin ap DafyddHyd: 00:53 
 
         
             
             
             
             
            