Main content

TRES BIEN!

Trwy wynt a glaw a glaw a gwynt
‘Rhen Aled yn ei leicra fu’n pedlo ar hynt
O Dawe i Bumsaint i Lanilar at Dai
Bryncrug i Borthmadog ac i Fangor aye!

Bradley Wiggins Radio Cymru
Gath groeso ym mhob ysgol wrth gasglu
Lawr bob allt a wedyn lan,
ewyllys cryf ond bladder wan.

Ei goesau yn gwegian
Ei Betws Bledrws yn sgrechian
A’i dintws yn grybibion
Heb gwyn(?!) mawr yw ei galon.

Trwy’r Swdocrîm a’r Vasalîn
Cafodd groeso fel y cwîn
Ac er na fydd yn eistedd am ychydig
y fwced sy’n llawn a hynny sy’n bwysig!

Diolch i bawb am gyfrannu i’r achos
A diolch i Aled am ei rodd i’r plantos.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad

Dan sylw yn...