Main content

Diogi

Mi fu yna gyfnod pan oedd pob diwrnod
Yn llawn o ddiflastod dilestair,
Ein tadau’n llafurio a’n mamau’n ymlafnio
Heb undyn yn cydio mewn cadair.

Ond gwaith oedd eu teyrnas a gwead cymdeithas
A llafur yn urddas i’w hirddydd,
’Roedd aur ym mhob ceiniog enillwyd o gyflog
I’w tlawd, ond goludog, aelwydydd.

A bellach, y rhinwedd mewn byd o ddigonedd
Yw cysgu a gorwedd heb gurio,
Cael gwyliau’n sagrafen mewn hawddfyd o hamdden,
A’n crefydd yw heulwen a hwylio.

A heddiw, a’n henwlad yn awr ar y farchnad,
I griw’r ymddeoliad ar ddeulin,
Gwneud dim yw’r diwylliant a chwarae’n ddiwydiant
A’u cyfoeth sy’n warant i werin.

Pan ddaw y robotiau cyn hir i’n rhoi ninnau
Ar domen ddieisiau yn ddiserch,
Ai nef neu wrthuni fydd gorfod diogi,
Ai drwg neu drueni i’w annerch?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud