Main content

BARDD Y MIS - Cerdd i Galwad Cynnar

Aderyn-drycin Manaw

Mae ’na gwmwl du heddiw yn bygwth glaw
ac ogla terfysg ar yr awel ddaw
dros frig y moryn, mae’n oeri fan hyn;
wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn?

Mae Môr Iwerddon yn dangos ei liw
a chapan ar gorun yr Eifl a’i chriw.
Mi gei hwylio fory, os Duw a’i myn;
wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn?

Bydd dannedd y Swnt yn angof cyn hir,
y peicia’n bell, ac ar fy ngwir
cei daith esmwythach os gafaeli di’n dynn;
wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn?

Ffarwelia â’r Ynys a’i mynwes glyd
am aelwyd o’r newydd ym mhen pella’r byd,
ond swatia rŵan nes bydd fory ynghynn;
wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn?

Rho d’air y dychweli rhyw ddydd ’nôl i’r lle
nad oes tebyg iddo draw acw’n y De;
pan deimli’r hen alwad, d’wed y doi ditha cyn
i minna roi trefn ar fy mhlu, ’nghyw bach gwyn.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o