Gwaith ymchwil daeareg arloesol ger Harlech
Drilio Gwyddonol ger Mochras
Math Williams y Daearegwr yn son am waith ymchwil daeareg Mochras.
Gwaith ymchwil daeareg arloesol yn cyhwyn ger Harlech
Bydd tîm o arbenigwyr rhyngwladol yn dechrau ar broject ymchwil arloesol ger Harlech, Gwynedd ym mis Tachwedd 2017. Bwriad y project yw taflu goleuni ar esblygiad bywyd, hinsawdd a’r amgylchedd yn ystod y cyfnod Jwrasig, tua 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Canolbwynt y project yw drilio gwyddonol oddi ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, ger maes gwersylla Mochras yn Llanbedr, i’r de o Harlech. Caiff y gwaith ei gydlynu gan ddaearegwyr o brifysgolion Caerwysg, Leeds a Rhydychen yn ogystal ag Arolwg Daearegol Prydain.
I gyd-fynd â’r project mae Amgueddfa Cymru yn arwain rhaglen ymgysylltu cyhoeddus sy’n cynnwys noson o sgyrsiau byr gan y gwyddonwyr ar nos Wener 13 Hydref, 7pm a diwrnod agored i’r gymuned leol yn neuadd bentref Llanbedr ar ddydd Sadwrn 14 Hydref, 10am–4pm. Bydd hwn yn gyfle i bobl ddarganfod mwy am y project, dysgu be’n union sy’n digwydd yn y safle drilio a pham bod daeareg yr ardal mor ddiddorol a phwysig. Bydd cyfle hefyd i drin a thrafod cerrig a ffosilau. Bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai ar y project, dan arweiniad y daearegydd lleol Dr Math William.
Pan fydd y drilio wedi cychwyn, bydd arddangosfa i’w gweld yng nghlwb y maes gwersylla yn esbonio cefndir y project. Bydd cyfle hefyd i ymweld ag ardal y drilio er mwyn gweld y gwaith yn fanylach a chyfarfod ymchwilwyr daearegol. Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cynnig sgyrsiau ar y project i gymunedau lleol.
Y bwriad yw echdynnu craidd, dros 1 km o hyd, o haenau creigiau gwaddodol Jwrasig Basn Bae Ceredigion. Bron i hanner canrif yn ôl, daeth gwaith drilio ar y safle yn ynys Mochras o hyd i archif arbennig o newid daearegol. Mae arbenigwyr nawr yn ailymweld â’r safle gan ddefnyddio technoleg fodern ac offer gwyddonol.
Mae’r Athro Stephen Hesselbo o Camborne School of Mines, Prifysgol Caerwysg, yn un o arweinwyr y gwaith ymchwil. Dywedodd: “Mae’r project hwn yn gyfle arbennig i ni astudio newid amgylcheddol a ddigwyddodd filiynau o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y byd yn dal i ffurfio.
“Roedd y project diwethaf ar y safle hwn yn chwyldroadol. Mae’r project newydd yn taclo cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae systemau amgylcheddol ein planed yn gweithio – sut mae cylchdro’r planedau a digwyddiadau folcanig yn cyfuno i newid cemeg y moroedd a’r atmosffer, er enghraifft.â€
Bydd dros 50 arbenigwr daearegol o 13 gwlad yn astudio’r creigiau a’r ffosilau sydd ynddynt er mwyn deall, mewn manylder anhygoel, sut mae amodau ar y Ddaear wedi esblygu dros 25 miliwn o flynyddoedd.
Caiff y gwaith drilio a’r rhaglen ymchwil bum mlynedd eu hariannu gan y Rhaglen Drilio Gwyddonol Cyfandirol Rhyngwladol (ICDP) sy’n rhoi $1.5 miliwn, a Chyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU (NERC) sy’n rhoi £3.7 miliwn. Mae disgwyl i’r gwaith ar ynys Mochras ddechrau ym mis Tachwedd 2017, 50 mlynedd wedi’r gwaith drilio diwethaf ar y safle.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/10/2017
-
Ynys Mull - Iolo Williams
Hyd: 12:45