Main content
Mae’n ddrwg gennym, ‘dyw’r clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Coalbrookdale

Ym mhell yn ôl yng Nghoalbrookdale
Bu’n rhaid i’r dynion adael
I’r Rhyfel Mawr o Goalbrookdale
A’r merched yn ymrafael
Ag arfau’r gwaith yng Ngoalbrookdale,
A hwy fu yn ei gynnal.
Ond er eu bod yng Nghoalbrookdale,
Ran hynny, yn gyfartal
Nid oedd y rhelyw’n Nghoalbrookdale
Yn ddigon da i fwrw
Eu pleidlais hwy yng Nghoalbrookdale
A dyna’r atgof chwerw
A gofir nawr yng Nghoalbrookdale
Trwy bron i ddeugain delw.

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o