Nid eich map chi oedd fy map innau
Nid eich map chi oedd fy map innau
Pa fap oedd gennym ond ffin
a’n gwasgodd rhwng traethau llaid
a chregyn gweigion
ac, yn bell ym mherfedd gwlad,
ehangder ein hanwybod,
argoel ein diddymu
a nesâi bob dydd
ar ddalennau paranoia:
enwant ein diflannu mewn iaith
ry hawdd i’w deall.
Euthum i leoedd gwag ein dychymyg,
i’r tir llosg a’r rhedyn a’r ffermydd briw
fel herwr a fwriwyd i’r nos
am gwestiynu ofn y llwyth.
Canfûm ym mawdd y tir
yr hyn nad oedd eich
map chi yn ei ganiatáu i mi:
agennau a’m hagorodd, nentydd
a’m gwaedodd o’m bustl a’m dig.
Lle’r ydych chi’n palu eich beddi
dros baneidiau di-ben-draw
a’r un hen wynebau blin,
creaf fy myd o’r newydd,
nid o falurion gwrthdrawiadau
ond o’r ymylon a’m creodd innau.
Morgan Owen
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2019 - Morgan Owen—Gwybodaeth
Morgan Owen yw bardd Radio Cymru ar gyfer Ionawr 2019.